* Mae cyfraith hawlfraint yn diogelu gwybodaeth a gynhwysir yn Archwilio a rhaid i'r defnyddiwr beidio â'i hatgynhyrchu, ei chopïo, ei throsglwyddo, ei gwerthu, ei chyhoeddi, ei harddangos, ei benthyca na'i throsglwyddo fel arall ar ffurf data neu mewn fformat ysgrifenedig i drydydd parti heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru y mae'n tarddu ohoni.
Edrychwch ar y Polisi Mynediad i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a'r Polisi Adfer Costau ar gael yma am ragor o wybodaeth am fynediad a phris.
Nid yw'r ffaith bod nodwedd archaeolegol neu adeilad wedi'i gynnwys yn Archwilio yn golygu bod gan y cyhoedd unrhyw hawl i gael mynediad i'r safle neu'r heneb honno. Mae'r mwyafrif ohonyn nhw ar dir sydd dan berchnogaeth breifat, ac mae'n rhaid ceisio caniatâd bob amser cyn ymweld ag unrhyw un ohonyn nhw. Nid yw Gweinidogion Cymru ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n derbyn (i'r graddau y mae'r gyfraith yn caniatáu) unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw golled neu ddifrod, sut bynnag y mae'n codi o ddefnyddio'r wybodaeth a gynhwysir yn Archwilio, ac ni dderbynnir unrhyw hawliadau am iawndal neu esgeulustod. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i'r Dudalen Ymwadiad.
Rhaid peidio â defnyddio'r wybodaeth a gynhwysir yn Archwilio at ddibenion sy'n difrodi, neu a allai arwain at ddifrodi, safleoedd archaeolegol, adeiladau a thirweddau hanesyddol. Yn anad dim, mae'r gyfraith yn gwarchod Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig, ac mae eu difrodi'n anghyfreithlon: hefyd, ni ddylid dechrau gwaith sy'n effeithio arnyn nhw heb y caniatâd perthnasol.
Cysylltwch â Cadw'n uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth am Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig.