Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys

CPAT banner
Listen to the pronuncation of Archwilio

Archwilio [Ar-ch-wil-ee-o] vb, to explore, examine, audit

Ymholiadau

Rydym yn croesawu ymholiadau ynghylch amgylchedd hanesyddol gogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru.

Trwy lansio Archwilio mae gan y cyhoedd fynediad ar-lein i bob un o bedwar Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Mae hyn yn caniatáu i bobl ymholi ac ymchwilio i wybodaeth am archaeoleg ac adeiladau hanesyddol Cymru wrth eu pwysau. Fodd bynnag, nid ydym yn disgwyl y bydd yn golygu na fydd angen mwyach i rai ymholwyr gysylltu â CPAT. Dylid parhau i gyfeirio ymholiadau cymhleth a’r rheini oddi wrth sefydliadau sy’n ymgymryd â chontractau masnachol at staff yr Ymddiriedolaeth.

Gellir gwneud ceisiadau am wybodaeth sy’n galw am amser staff CPAT trwy lythyr, dros y ffôn, trwy ffacs neu e-bost, neu drwy lenwi a dychwelyd y Ffurflen Ymholi sydd ar gael trwy’r ddolen yn Archwilio. Gall ymholwyr sy’n cysylltu â ni trwy e-bost ddisgwyl derbyn ateb yn cadarnhau bod eu cais wedi’i dderbyn ac yn rhoi awgrym o faint o amser y bydd yn ei gymryd i brosesu eu hymholiad. Pan fydd yr ymholwr yn ffacsio cais i’r CAH, mae disgwyl iddo ffonio i gadarnhau bod y ffacs wedi'i dderbyn.

At ddibenion gweinyddol, ac er mwyn atal camddefnyddio gwybodaeth, gofynnwn i ddefnyddwyr ddweud wrthym pam eu bod yn gwneud ymholiadau, a chytuno ar amodau a thelerau mynediad (gwelwch yr Amodau Defnyddio a Chanllawiau Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru ar gyfer Mynediad a Chodi Tâl).

Mae Archwilio yn cofnodi’n awtomatig y chwiliadau y mae ymholwyr ar-lein yn eu gwneud, ac ni chaniateir mynediad i wybodaeth ar-lein oni bai y cytunir i gydymffurfio â’n hamodau a’n telerau mynediad y gellir eu gweld trwy Archwilio.

Bydd gwybodaeth y mae angen i staff CPAT ei dwyn ynghyd yn cael ei throsglwyddo i’r ymholwr trwy'r cyfrwng mwyaf addas, naill ai yn electronig trwy e-bost, neu drwy’r post. Gellir casglu deunydd o swyddfeydd CPAT os gwneir trefniadau ymlaen llaw.

Cyfeiriad Post

  • Swynddog Cofnod Amgylchedd Hanesyddol
  • Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys
  • 7a Stryd yr Eglwys
  • Y Trallwng
  • Powys
  • SY21 7DL

Dylid trefnu apwyntiadau cyn ymweld â Chofnod Amgylchedd Hanesyddol Clwyd-Powys yn bersonol; cysylltwch â’r Swyddog CAH i drefnu amser cyfleus i ymweld.

Oriau agor: - 10am - 1.00pm a 2.00pm - 5.00pm, Llun - Gwener

Cyfleusterau chwilio yn swyddfeydd CPAT

Darperir terfynell gyfrifiadurol i'r cyhoedd ei defnyddio yn swyddfeydd CPAT yn 7a Stryd yr Eglwys er mwyn i'r cyhoedd allu mynd ati i chwilio eu hunain. Bydd aelod o staff ar gael i roi cyfarwyddiadau ac i gynorthwyo wrth ichi chwilio.

Gallwch ddefnyddio'r llyfrgell a'r ystafell gyfarfodydd yn 7a Stryd yr Eglwys i astudio amrywiaeth o lyfrau, cylchgronau, ffotograffau, mapiau, lluniadau a dogfennau printiedig sy'n ymwneud ag archaeoleg a hanes.

Mae yna gyfleusterau llungopïo a sganio ar gael.

Mae yna gyfleusterau toiled ar gael.

Mynediad i’r Anabl

Yn anffodus, nid oes gan swyddfeydd CPAT yn 7a Stryd yr Eglwys fynediad neu gyfleusterau ar gyfer pobl ag anableddau. Rydym yn gobeithio bod cyflwyno Archwilio yn lliniaru’n fawr ar y sefyllfa hon ond yn cydnabod y bydd dal angen gweld deunyddiau copi caled a ddelir yn 7a Stryd yr Eglwys ar gyfer rhai ymholiadau. Dan yr amgylchiadau hyn, bydd staff Cofnod Amgylchedd Hanesyddol CPAT yn ateb yr ymholiad, ac yn anfon y canlyniadau at yr ymholwr trwy e-bost neu drwy’r post.

Deddf Diogelu Data (1998)

Mae yna hawl i weld yr HER i archwilio gwybodaeth bersonol sydd wedi'i chadw mewn system gyfrifiadurol sydd wedi'i chofrestru dan y Ddeddf Diogelu Data (1998). Cesglir y wybodaeth hon at ddibenion gweinyddu cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru a darparu cyngor archaeolegol. Defnyddir y wybodaeth i fonitro a gwella'r gwasanaethau y mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn eu cynnig. Ni ddarperir hi i unrhyw asiantaethau neu unigolion allanol.

Bydd gwaith papur ymholiadau CAH yn cael eu cadw am 3 blynedd, ac yna bydd yn cael ei ddinistrio.

Os oes gennych unrhyw ymholiad neu bryder ynglyn â hyn, cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru berthnasol (mae'r manylion cysylltu yn Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru Canllawiau ar gyfer Hawl i Weld a Chodi Tal.

Mynd i brif wefan CPAT yn www.cpat.org.uk

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys

Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk