Cronfa ddata ac archif gwybodaeth am safleoedd o ddiddordeb archaeolegol a hanesyddol o fewn ardal Clwyd-Powys yw Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) Rhanbarthol CPAT. Mae gennym gofnodion o safleoedd archaeolegol o bob cyfnod, yn amrywio o’r anheddu dynol hysbys cynharaf yng Nghymru, i nodweddion cymharol gyfoes fel strwythurau milwrol yr Ail Ryfel Byd. Mae gennym wybodaeth am Adeiladau Rhestredig, Henebion Cofrestredig, mannau darganfyddiadau unigol, a nodweddion archaeolegol eraill. Mae gennym hefyd wybodaeth am brosiectau archaeolegol sydd wedi mynd rhagddyn nhw yn yr ardal.
Yn achos pob safle, darganfyddiad neu brosiect, cofnodir gwybodaeth allweddol, fel ei enw, ei leoliad, y math o safle, ei gyfnod a’i statws cyfreithiol. Nodir disgrifiad byr o’r gweddillion hefyd, ac rydym yn cadw rhestr o ffynonellau llyfryddol a darganfyddiadau sy’n gysylltiedig â phob safle. Ochr yn ochr â gwybodaeth gyfrifiadurol, mae gennym niferoedd sylweddol o archifau papur, mapiau, ffotograffau a gwybodaeth ategol arall.
Wedi dod o hyd i hapddarganfyddiad neu wedi darganfod safle newydd hyd yn oed? Rydym wrthi’n diweddaru ac yn ehangu’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yn barhaus, felly os oes gennych unrhyw wybodaeth newydd, cysylltwch â ni
Ddim yn siwr beth rydych wedi dod o hyd iddo? Byddwn yn ceisio dweud wrthych beth yw'ch darganfyddiad; trefnwch apwyntiad i ymweld â’r Ymddiriedolaeth neu anfonwch ffotograffau atom.
Mynd i brif wefan CPAT yn www.cpat.org.uk
Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk