Amdanom Ni
Un o bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru sy’n cydweithio’n agos â chyrff cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill i helpu i ddiogelu, cofnodi a dehongli pob agwedd ar amgylchedd hanesyddol Cymru gyfan yw CPAT. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn mynd rhagddo yn ardal Clwyd-Powys – sir Powys ac ardaloedd awdurdodau lleol hen sir Clwyd – Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Bwrdeistref Sirol Wrecsam a rhan ddwyreiniol Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae staff yr Ymddiriedolaeth wedi’u trefnu mewn timau, sef y Tîm Gweinyddol, y Tîm Curadurol a’r Tîm Prosiectau. Ymhlith gweithgareddau craidd yr Ymddiriedolaeth mae darparu gwybodaeth a chyngor ar adnodd archaeolegol i ymholwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, a chynnal prosiectau gwaith maes i arolygu, archwilio ac asesu’r adnodd hwnnw.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig; mae ei gweithgareddau’n cael eu rheoli gan fwrdd Ymddiriedolwyr a phwyllgor cynghori.