Amdanom Ni
Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd (GAT) ym 1974 fel elusen addysgol i roi gwybodaeth i'r cyhoedd am faterion archaeolegol, i ymateb i fygythiadau cynyddol i archaeoleg yr ardal, ac i addysgu yn y synnwyr ehangaf. Mae bellach yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau archaeolegol ac mae ganddi gyfoeth o wybodaeth leol am archaeoleg a thirweddau hanesyddol gogledd-orllewin Cymru.