Amdanom Ni
Sefydliad annibynnol yw Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, a sefydlwyd yn benodol i warchod, ymchwilio, cofnodi a hybu'r amgylchedd hanesyddol yn effeithiol.
Er bod ein hymrwymiad i'r rhanbarth yn gryf, rydym yn cynnig gwasanaethau proffesiynol dros ardal eang, yng Nghymru a thu hwnt.
Cwmni Cyfyngedig Preifat ac Elusen Gofrestredig yw cyfansoddiad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, a'i hamcanion yw ehangu addysg y cyhoedd mewn archaeoleg.
Bwrdd Ymddiriedolwyr yw llywodraethwyr yr Ymddiriedolaeth, ac mae hwn yn penodi Pwyllgor Rheoli. Ni ellir dod yn aelod o'r Ymddiriedolaeth oni bai bod yr Ymddiriedolaeth yn eich gwahodd, ac mae'r aelodaeth yn darparu ffynhonnell o arbenigedd academaidd a phroffesiynol eang ei ystod mewn archaeoleg a meysydd cysylltiedig.
Mae gennym weithlu proffesiynol uchel ei gymhelliad, gydag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad. Ar ben hyn, ceir cysylltiadau a phartneriaethau sydd wedi'u hen sefydlu ag arbenigwyr allanol a sefydliadau arbenigol sy'n ein galluogi i gynnig gwasanaethau ymgynghori a gweithredu helaeth.
Mae Rheolwyr Treftadaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cynnal y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ar gyfer de-orllewin Cymru. Ar hyn o bryd, mae 75,000 o safleoedd o ddiddordeb archaeolegol a hanesyddol, arteffactau ac ymchwiliadau archaeolegol wedi'u cofnodi.