Cofnod Amgylchedd Hanesyddo Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Dyfed banner
Listen to the pronuncation of Archwilio

Archwilio [Ar-ch-wil-ee-o] vb, to explore, examine, audit

Amodau Defnyddio Cyffredinol

  • Lluniwyd Archwilio er mwyn i'r data gael eu defnyddio at ddibenion gwybodaeth ac ymchwil yn unig, ac ni cheir eu defnyddio at ddibenion rheoli datblygiad neu fel rhan o brosiect masnachol. Dylid cyfeirio ymholiadau o'r fath yn uniongyrchol at staff yn yr ymddiriedolaeth berthnasol trwy dudalen Ymholiadau'r Ymddiriedolaeth honno
  • Ni cheir trosglwyddo gwybodaeth a sicrheir o Archwilio i drydydd parti heb ganiatād ysgrifenedig*
  • Y defnyddwyr fydd yn gyfrifol am wirio bod y wybodaeth a sicrheir o Archwilio yn gywir
  • Hawlfraint Ymddiriedolaethau Archaeolegol unigol Cymru yw cynnwys a strwythur data Archwilio oni bai y nodir yn wahanol
  • Rhaid sicrhau caniatād ysgrifenedig ymlaen llaw i gyhoeddi gwybodaeth ar ffurf brintiedig neu amlgyfrwng neu i lunio adnoddau at ddefnydd masnachol
  • Bydd disgwyl i ddefnyddwyr Archwilio ufuddhau i'r holl gyfyngiadau hawlfraint a chyfyngiadau cyfreithiol eraill a allai fod yn berthnasol i wybodaeth a ddelir yn y cofnod
  • Mae gofyn i ddefnyddwyr gydnabod eu bod wedi defnyddio Archwilio mewn unrhyw ddogfen neu adroddiad cyhoeddedig

*Rhaid defnyddio gwybodaeth y mae'r defnyddiwr yn ei thynnu o Archwilio er budd personol y defnyddiwr yn unig. Mae cyfraith hawlfraint yn diogelu gwybodaeth a gynhwysir yn Archwilio a rhaid i'r defnyddiwr beidio ā'i hatgynhyrchu, ei chopļo, ei throsglwyddo, ei gwerthu, ei chyhoeddi, ei harddangos, ei benthyca na'i throsglwyddo fel arall ar ffurf data neu mewn fformat ysgrifenedig i drydydd parti heb ganiatād ysgrifenedig ymlaen llaw oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru y mae'n tarddu ohoni.

Mynediad a Difrod i Safleoedd Archaeolegol

Nid yw'r ffaith bod nodwedd archaeolegol neu adeilad wedi'i gynnwys yn Archwilio yn golygu bod gan y cyhoedd unrhyw hawl i gael mynediad i'r safle neu'r heneb honno. Mae'r mwyafrif ohonyn nhw ar dir sydd dan berchnogaeth breifat, ac mae'n rhaid ceisio caniatād bob amser cyn ymweld ag unrhyw un ohonyn nhw. Nid yw Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n derbyn (i'r graddau y mae'r gyfraith yn caniatįu) unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw golled neu ddifrod, sut bynnag y mae'n codi o ddefnyddio'r wybodaeth a gynhwysir yn Archwilio, ac ni dderbynnir unrhyw hawliadau am iawndal neu esgeulustod. I gael mwy o wybodaeth am y pwnc hwn, ewch i'r Dudalen Ymwadiad

Mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n gwahardd defnyddio'r wybodaeth a gynhwysir yn Archwilio at ddibenion sy'n difrodi, neu a allai arwain at ddifrodi, safleoedd archaeolegol, tirweddau ac adeiladau hanesyddol. Yn anad dim, mae'r gyfraith yn gwarchod Henebion Cofrestredig (SAMs) ac Adeiladau Rhestredig, ac mae eu difrodi'n anghyfreithlon: ar ben hyn, ni ddylid dechrau gwaith sy'n effeithio arnyn nhw heb y caniatād perthnasol.

Cysylltwch ā Cadw'n uniongyrchol i gael mwy o wybodaeth am SAMs ac Adeiladau Rhestredig.

Cadw is the Welsh Assembly Government's historic environment division

Mynd i brif wefan Dyfed yn www.dyfedarchaeology.org.uk

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk