Cofnod Amgylchedd Hanesyddo Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Dyfed banner
Listen to the pronuncation of Archwilio

Archwilio [Ar-ch-wil-ee-o] vb, to explore, examine, audit

Themâu

Mae'r adran hon yn rhoi esboniadau o dermau penodol y gellir dod o hyd iddyn nhw yng nghofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru drwyddynt draw.

Cyfnodau Amser

Cliciwch ar y cyfnodau isod i ddysgu mwy.

Pleistosenaidd (Pleistocene): tua 1.64 miliwn i oddeutu 8,500CC

Paleolithig (Palaeolithic) (Hen Oes y Cerrig): rhwng 220,000CC a 8,500CC

Mesolithig (Mesolithic) (Oes Canol y Cerrig): rhwng 8,500CC a 4,000CC

Neolithig (Neolithic) (Oes Newydd y Cerrig): rhwng 4,000CC a 2,200CC

Oes yr Efydd (Bronze Age): rhwng 2,200CC a 700CC

Oes yr Haearn (Iron Age): rhwng 700CC a 43OC

Rhufeinig (Roman): rhwng 43OC a 410OC

Canoloesol Cynnar (Early Medieval): rhwng 410OC a 1086OC

Canoloesol (Medieval): rhwng 1086OC a 1536OC

Ôl-Ganoloesol (Post-Medieval): rhwng 1536OC a 1899OC

Modern: rhwng 1900 a heddiw

Mathau o Safleoedd

Mae Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol Cymru'n cynnwys gwybodaeth am fwy na 100,000 o safleoedd archaeolegol yng Nghymru. Mae rheoli'r wybodaeth hon yn galw am safonau mynegeio da a dulliau effeithlon o adfer gwybodaeth.

Dan arweiniad y Comisiwn Brenhinol, a chyda chymorth cydweithwyr yn Amgueddfa Cymru a Cadw, mae pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru wedi bod wrthi'n datblygu thesawrws o fathau o henebion yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau bod termau mynegeio wedi'u safoni ledled Cymru. Y bwriad hefyd yw llunio fersiwn Gymraeg o'r thesawrws.

Chwilio'r thesawrws o Fathau o Safleoedd yng Nghymru. yma

Mynd i brif wefan Dyfed yn www.dyfedarchaeology.org.uk

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk