Cofnod Amgylchedd Hanesyddo Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Dyfed banner
Listen to the pronuncation of Archwilio

Archwilio [Ar-ch-wil-ee-o] vb, to explore, examine, audit

Wedi dod o hyd i rywbeth o ddiddordeb?

Wedi dod o hyd i hapddarganfyddiad neu wedi darganfod safle newydd hyd yn oed? Rydym wrthi'n diweddaru ac yn ehangu'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yn barhaus, felly os oes gennych unrhyw wybodaeth newydd, cysylltwch â ni

Ddim yn siwr beth rydych wedi dod o hyd iddo? Byddwn yn ceisio dweud wrthych beth yw'ch darganfyddiad; trefnwch apwyntiad i ymweld â'r Ymddiriedolaeth neu anfonwch ffotograffau atom.

Beth yw CAH?

Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Dyfed yw'r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth am wrthrychau a safleoedd archaeolegol oddi mewn i Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n cwmpasu pob cyfnod o ddatblygiad dynol o olion y gweithgarwch cynhanesyddol cynharaf i strwythurau amddiffynnol o'r Ail Ryfel Byd, ac mae'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth Cadw ar Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig. Y CAH yw'r sail ar gyfer cyngor ar gadwraeth a rheolaeth yn y rhanbarth, ac mae hefyd yn darparu adnodd gwerthfawr ar gyfer addysg ac ymchwil.

Yn ogystal â gwybodaeth am safleoedd unigol, mae'r CAH yn cynnwys gwybodaeth am dirweddau'r gorffennol, arteffactau sydd wedi'u darganfod a gwybodaeth sydd wedi dod i law yn sgil gwaith archaeolegol blaenorol.

Mae'r Cofnod yn system gymhleth o wybodaeth a ddelir mewn cronfa ddata gyfrifiadurol gyda mapio digidol. Yn achos pob eitem yn y cofnod, rydym yn dal gwybodaeth allweddol fel y math o safle, ei enw (os yw'n hysbys), ei leoliad a'r cyfnod y mae'n dyddio ohono. Mae gan fwyafrif y cofnodion gyfeiriadau llyfryddol a disgrifiad. Ar hyn o bryd, mae yna fwy na 75,000 o gofnodion yn y gronfa ddata, ac mae'r ffigur hwn yn cynyddu bob dydd.

Yn ategol at y cofnod digidol mae casgliad cyfeirio mawr o wybodaeth bellach ar bapur, mapiau, cynlluniau, ffotograffau o'r awyr ac o'r ddaear, adroddiadau a llyfrgell fach.

Mynd i brif wefan Dyfed yn www.dyfedarchaeology.org.uk

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk